AMDANOM NI
Mae Ebeneser wedi bod yn eglwys sy'n tystio i'r newyddion da yn Iesu Grist yng Nghaerdydd ers 1826 ac yr ydym yn dal ati i wneud hynny.
Da ni'n sylweddoli fod pethau wedi newid yn fawr o fewn i gymdeithas tros y blynyddoedd ac yn credu fod yn rhaid i eglwysi newid eu harddull a'u diwylliant tra'n cadw at sylfeini'r ffydd sydd wedi ei rhoi inni yn y Beibl.
Nid oes gennym ein capel ein hunain erbyn hyn ond rydym yn cynnal ein gweithgareddau mewn 3 lleoliad sef, Canolfan yr Eglwys Newydd , Capel y Methodistiaid yr Eglwys Newydd ac mae Angor yn cyfarfod yn Nghanolfan Reach drws nesaf i'r ysgol feithrin yn Grangetown.
Ein gweinIdog
Parchedig Dr Alun Tudur
Dyma ein prif weithgareddau
Gwaith Plant
Mae Clwb Sêr ar gyfer plant cynradd yn cael ei gynnal bob bore Sul - yn ystod tymor ysgol - yng Nghanolfan yr Eglwys Newydd. Mae hwn yn weithgaredd Cymraeg sy'n cynnwys stori Feiblaidd, crefft a chân
Cynhelir Llanllanast unwaith y mis. Mae hwn eto ar gyfer plant cynradd a'u teuluoedd yn llawn egni, hwyl, crefftau a gemau.
Am ragor o wybodaeth a unrhyw un o'r uchod cysylltwch trwy ebenesercaerdydd1@gmail.com
Angor Grangetown
Cynhelir cyfarfodydd Angor ar yr ail ar pedwerydd Sul o bob mis yng Nghanolfan Reach, Grangetown Caerdydd.
Mae hwn yn gyfarfod cwbl anffurfiol ar gyfer teuluoedd ac unigolion.
Mae gweithgaredd ar gyfer plant yn ystod y cyfarfod
Dewch draw i gael cymdeithas
Llanllanast
Y mae Llanllanast yn weithgaredd plant a'u teuluoedd sy'n digwydd unwaith y mis.
Cyfle i ddysgu am Iesu mewn awyrgylch cyfeillgar a chynnes a hynny trwy grefft, gemau, cân a chyd-fwyta.
Cliciwch yma er mwyn gweld amserodd a lleoliad y gweithgarwch hwn.
Os hoffech dderbyn ein e-bost wythnosol cysylltwch trwy ebenesercaerdydd1@gmail.com
Beibl a Gweddi
Sylweddolwn pa mor bwysig yw ochr ysbrydol ein bywydau, felly rhoddwn bwyslais ar weddi ac astudio'r Beibl.
Cwrdd Gweddi - Pob nos Lun am 7.30 cynhelir cwrdd gweddi yng nghaffi Roundabout y Methodisitiad yn yr Eglwys Newydd.
Ysgol Sul Oedolion - Yn dilyn oedfa'r bore ar yr ail ar trydydd Sul o bob mis.
ODID - Pob pythefnos byddwn yn cynnal astudiaeth Feiblaidd o dŷ i dŷ er mwyn plymio yn ddyfnach i'r gwirioneddau am Dduw a newyddion da rhyfeddol Cristnogaeth i'n byd cyfoes.
Mae llawer o angen yn lleol i wasanaethu ein cyd-ddinasyddion. Rydym yn gyson yn casglu arian, bwyd a dillad ar gyfer elusennau lleol. Byddwn hefyd yn helpu elusen Enfys Gobaith yn fisol gyda'u gwaith yn helpu a bwydo'r di-gartref ac ymgeiswyr lloches.
Ymholiadau pellach - ebenesercaerdydd1@gmail.com
Grwpiau Gwirfoddoli
Agor y Llyfr
Rydym fel eglwys yn rhan o dim Agor y Llyfr Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd. Mae Agor y Llyfr yn mynd o amgylch ysgolion i gyflwyno hanesion o'r Beibl i blant.
Rydym angen rhagor o bobl i fod yn rhan o'r criw arbennig hwn. Mae y rhan fwyaf wedi ymddeol, felly os y gallwch helpu byddem yn dra diolchgar.
Ymholiadau pellach - ebenesercaerdydd1@gmail.com